Eglwys Santes Ann, Cefn Hengoed. |
---|
Hanes fer am Eglwys Santes Ann, Cefn Hengoed
(yn wreiddiol Eglwys Genhadaeth Cefn Hengoed)
Cliciwch yma i weld rhagor o luniau!
Yn fuan ar ôl cyrhaeddiad y Parchedig John Owen Williams i Blwyf Gelligaer fel Offeiriad yn 1931, fe ddechreuodd Ysgol Sul ym mhentref bach Cefn Hengoed. Roedd angen i ddarparu hyforddiant ysbrydol i deuluoedd a wnaeth byw yn y pentref. Roedd yr Ysgol Sul yn cwrdd yn 30, Heol Gelligaer, Cefn Hengoed, drws nesaf i’r adeilad presennol sef y Clwb Cyfansoddiadol Linsday ac y mae nawr yn gartref i’r stiward a’r stiwardes y clwb.
Wnaeth y gwasanaethau parhau yn ‘Ty’r Eglwys’ am dua saith mlynedd arall. Yn ystod yr amser yma fe dyfodd nifer yr aelodau a fe ddaeth yn amlwg bod angen adeilad mwy addas. Ar dir cyferbyn i Ysgol Gynradd Derwendeg, cyfagos i Fferm Carn Gethin adeiladwyd Eglwys a Neuadd Eglwys. Roeddynt hefyd wedi ystyried adeiladu lle i’r curad byw ac felly efo’r rhodd o’r Cymdeithas Adeiladu yr Eglwys Gorfforedig ac hefyd rhoddion o gyrff eraill, fe ddechreuwyd i adeiladu’r Eglwys.
Ar Ddydd Mercher, Mai 31ain 1939 am 4.30yh cafodd carreg sylfaenol ei gosod gan Mrs Amy Dorothea Hann a’i gwr a oedd yn Warden Egwlys Sant Catwg yng Ngelligaer. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Archddiacon Hybarch o Landaf a mynychwyd gan y cadeirydd a cynghorwyr Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer. Gwisgodd yr Offeiriad a’r côr yn ‘Ty’r Eglwys’ cyn ymdeithio lawr Heol Gelligaer, Cefn Hengoed i safle yr Eglwys a oedd dal angen £800 arall er mwyn orffen yr adeilad. Hefyd yn presennol yn y gwasanaeth yma oedd y pensaer a’r adeiladwyr (Brodyr Gittins).
I ddechrau’r gwasanaeth, fe gannodd yr emyn ‘All People that on Earth do Dwell’, fe ddarllenwyd Salm 121, “Codaf fy llygaid tua’r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?” ac yr emyn olaf oedd ‘The Church is one Foundation’. Cafwyd llyfrynnau’r gwasanaeth eu argraffu gan W.F.A Argraffwyr o Fargoed.
Er mwyn codi’r arian a oedd yn weddill, annogwyd trigolion y pentref i brynu bric a chafodd ei werthu yn wythnosol. Roedd y briciau yn cynrychioli briciau’r Eglwys newydd. Ar y pryd enw’r Eglwys oedd Eglwys Genhadaeth Cefn Hengoed. O’r diwedd fe godwyd yr arian a oedd angen a fe orffenwyd yr Eglwys a’i ddodrefni. Credwyd i’r meinciau eistedd a’r pulpud cael eu gwneud allan o bren o ystad Gorllewin Cymru y Parchedig J.O Williams. Prynnwyd yr organ trwy godi arian ac roedd y piano yn rhodd o’r Clwb Cyfansoddiadol Lindsay. Roedd Eglwys Genhadaeth Cefn Hengoed yn cael ei ddefnyddio am nifer o resymau a chafodd derbynfaoedd priodas eu cynnal yna yn aml.
Yn ogystal â chefnogaeth y Rheithor a Curad Plwyf Gelligaer, roedd yr Eglwys Genhadaeth hefyd yn cael cefnogaeth ‘Chwiorydd’ Byddin yr Eglwys a oedd yn aros efo Mrs Williams o Heol Gelligaer, Cefn Hengoed. Roedd pawb yn eu hadnabod hi fel ‘Auntie Nan’. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, cafodd un o’r ‘Chwiorydd’ Annie Griffiths Jones ei lladd gan fom Almaenig tra’n ymweld a’i theulu yng Nghaerdydd. Fel canlyniad i hyn fe newidiodd enw’r Eglwys i Eglwys Santes Ann o dan perigoliaeth y Parchedig Clive M.P Jones ac mae’r enw yn parhau hyd heddiw.
o o o o o o o o o o o o o o o o
Mae Sechareia, pennod 4: adnod 10 yn dweud “Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain….” Dechreuodd yr Eglwys ar ddim ond mae wedi cael dylanwad ar nifer o bobl dros y blynyddoedd. Gobeithio bydd yr ‘Eglwys Gadeiriol Bach’ yn parhau i fod yn dyst gwerthfawr i genhedlaethoedd dyfodol y pentref.
Hoffwn ddiolch Mr Bryn Williams Heol Gelligaer, cyn Warden o Eglwys Santes Ann am ei help yn cynhyrchu yr deunydd yma.
Ymchwil gan: Mr. Gwyn Jones B.A.,
Dip H.E, Dip, Theol .
AD MAJOREM, DEO GLORIA. |
FOR THE GREATER GLORY OF GOD |
[Safeguarding Policy][Disclaimer] [Home Page]